19 Ion 2022 – 30 Maw 2022
Noddir gan Ticketsolve, mewn partneriaeth â Creu Cymru a chyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Os ydych chi’n gweithio mewn sefydliad bach yng Nghymru, ac am wella’ch gallu i farchnata, mae hyn i chi. Mae’r Rhaglen Datblygu ar Raddfa Fach yn eich helpu i gael y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fabwysiadu dull strategol ac effeithiol.
Byddwn yn eich tywys drwy’r broses cynllunio marchnata, sut y gallwch adeiladu a chyfleu eich brand, sut i ddatblygu eich cynulleidfaoedd a chynllunio cyfathrebu rhagorol.
Byddwn yn archwilio eich cynulleidfaoedd presennol a’ch cynulleidfaoedd posibl ac yn nodi strategaethau a fydd yn eich helpu i ddiwallu eu hanghenion nhw a’ch amcanion chi. Byddwn hefyd yn edrych ar ystyriaethau ymarferol, fel sut i wneud eich marchnata dwyieithog y gorau y gall fod, a sut i sicrhau bod eich marchnata’n hygyrch.
Gallwch ddod â mwy nag un person o’ch sefydliad, i helpu’r rhaglen i gael yr effaith fwyaf ar draws eich tîm. Yn ystod y rhaglen, byddwch hefyd yn rhannu profiadau ac yn adeiladu rhwydwaith o gyfoedion a fydd yn parhau y tu hwnt i fis Mawrth 2022.
Byddwch yn cymryd rhan mewn 6 gweithdy ar-lein o 3 awr yr un, wedi’u cynllunio i gael y gorau o’ch dysgu gyda sesiynau ymrannu a thrafod, a bydd amser rhwng y sesiynau i roi cynnig ar eich sgiliau newydd a rhannu canlyniadau.
Mae’r gweithdai’n cynnwys:
- Sesiwn 1: Fframwaith Strategaeth Farchnata a Gweledigaeth/Cenhadaeth
- Defnyddio fframwaith strategaeth i adeiladu strategaeth farchnata
- Tueddiadau, mewnwelediadau ac ymchwil cyfredol
- Ail-ymweld â’ch gweledigaeth/cenhadaeth
- Sesiwn 2: Brand
- Cyflwyno Brand – sut i adnabod a chyfleu eich brand
- Sesiwn 3: Deall eich cynulleidfaoedd
- Data, mewnwelediad, mapio empathi a segmentu.
- Beth ydych chi’n ei wybod am eich cynulleidfaoedd presennol?
- Beth sydd angen i chi ei wybod?
- Sesiwn 4: Pennu Amcanion a Nodi Strategaethau
- Sut i osod amcanion CAMPUS
- Teclynnau ar gyfer nodi strategaethau i’w dilyn
- Sesiwn 5: Cynllunio cyfathrebu rhan 1o Marchnata dwyieithog
- o Marchnata hygyrch
- Sesiwn 6: Cynllunio cyfathrebu rhan 2
- Dewis sianeli
- Adnabod negeseuon allweddol
- Cymharu nodweddion a manteision
- Awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu copi
Rhaglen Datblygu Ar Raddfa Fach: Cymru
Darperir Rhaglen Datblygu ar Raddfa Fach Cymru gan AMA. Diolch i Creu Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru gallwn gynnig lleoedd â chymhorthdal mawr i agor buddion y rhaglen i sefydliadau bach yng Nghymru.
Y gost i gymryd rhan yw £95 + TAW fesul sefydliad


Dyddiadau
Gan ddechrau ym mis Ionawr, mae’r sesiynau’n rhedeg unwaith bob pythefnos o 10am-1pm (cyfanswm yr amser rhedeg fydd 12 wythnos).
- Sesiwn 1: 19eg Ion
- Sesiwn 2: 2il Chwefror
- Sesiwn 3: 16eg Chwef
- Sesiwn 4: 2il Mawrth
- Sesiwn 5: 16eg Mawrth
- Sesiwn 6: 30ain Mawrth
Pam Rhaglen Datblygu ar Raddfa Fach?
Am y tro cyntaf, gallwn ddod â’r Rhaglen i Gymru, ac rydym wrth ein boddau. Rydym wedi rhedeg y Rhaglen gyda dwsinau o sefydliadau dros y blynyddoedd ac wedi gweld yr effaith y gall ei chael.
Dyma beth oedd gan rai o’n cynrychiolwyr yn 2020 i’w ddweud am eu profiad o’r Rhaglen, a gyflwynwyd ar-lein:
Llywiwyd y rhaglen yn dda iawn gan y darparwyr… Mae wedi bod yn amhrisiadwy o ran gallu meddwl drwy newid a’r camau nesaf y mae angen i ni eu gwneud o ganlyniad i hyn… Bydd fy sefydliad yn elwa’n fawr.
Fe wnes i fwynhau’r cwrs yn fawr iawn. Roedd llawer o waith meddwl wedi’i roi i’r dull o’i gyflwyno ar lwyfan Zoom, a gwerthfawrogwyd yn fawr y ffordd y cawsom ein gwneud i deimlo’n gyfforddus yn yr amgylchedd dysgu gan ystyried natur giwbicl ein rhyngweithiadau… Rhannodd pob cyflwynydd eu gwybodaeth yn dda, hoeliwyd ein sylw a darparwyd teclynnau defnyddiol iawn i fynd â ni nôl i’n gwaith.
Roedd proffesiynoldeb a phrofiad y bobl a arweiniodd sesiynau yn wirioneddol drawiadol… Gadawodd pobl eu hunanfalchder ‘wrth y drws’ a gwrando ar eraill gymaint ag y gwnaethant gyfrannu eu barn a’u syniadau eu hunain. Amgylchedd empathetig a chynhwysol iawn.
Trainers

Cath Hume
CEO
Arts Marketing Association

Ed Newsome
Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu
Sherman Theatre

Guy Turton
Cyfarwyddwr
MHM

Hanna Dobson
Rheolwr Marchnata a Rhaglen
Pontio Arts, Bangor University
AMAculturehive Adnoddau
Rydym wedi curadu detholiad o adnoddau ar AMAculturehive i ategu’r gweithdai a gynhaliwyd yn ystod SSDP Cymru.Gweld yr adnoddau
Cefnogwyr:
Gyda diolch i:


Noddwyd gan:
