Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn darparu hyd at 7 bwrsari sy’n talu cost lawn tocyn Diwrnod Marchnata Digidol, ynghyd â hyd at £300 y pen ar gyfer costau teithio a llety.

Meini prawf:   

  • Mae’n rhaid i ymgeiswyr unigol fod yn gweithio fel gweithiwr celfyddydol llawrydd yng Nghymru neu mewn sefydliad celfyddydol sydd yng Nghymru.

Yn enwedig hoffwn gael ceisiadau gan y canlynol:   

  • Unigolion neu sefydliadau sy’n gweithio’n bennaf yn y Gymraeg 
  • Unigolion Byddar, anabl neu niwroamrywiol 
  • Unigolion o gefndir ethnig neu ddiwylliannol amrywiol 
  • Sefydliadau sy’n cael eu harwain gan — ac yn canolbwyntio ar gefnogi — grwpiau â nodweddion gwarchodedig. O’r rhain, bydd blaenoriaeth arbennig i’r sefydliadau celfyddydol dan arweiniad pobl ethnig ac yn ddiwylliannol amrywiol neu rai dan arweiniad pobl anabl 
  • Unigolion sy’n gweithio’n llawrydd yn y sector diwylliannol gyda’r gwaith yna’n brif ffynhonnell incwm iddyn nhw 

Sut i ymgeisio:

Cwblhewch y ffurflen gais ar-lein erbyn 12pm ar 15 Hydref 2026.

Gwnewch gais yn Saesneg yma.

Os oes gennych gwestiynau, anfonwch e-bost at Molly Pilkington, Uwch Swyddog Twf a Chyfranogiad yn AMA: molly@a-m-a.co.uk

Camau nesaf:

Bydd yr AMA a Creative Scotland yn asesu pob cais a bydd yr AMA yn e-bostio penderfyniad terfynol at bob ymgeisydd yn yr wythnos sy’n dechrau 26 Hydref 2026.

Darllenwch ein hawgrymiadau gorau ar gyfer ceisiadau am fwrsariaeth i helpu i wneud i’ch cyflwyniad sefyll allan.

Arts Council of Wales Logo

Please note:

— Dim ond un bwrsari y bydd pob sefydliad yn ei dderbyn.

— Mae’r bwrsari yn talu cost lawn eich tocyn Diwrnod Marchnata Digidol gyda hyd at £300 y pen ar gyfer teithio a llety.

— Os ydych chi eisoes wedi talu am le yn Niwrnod Marchnata Digidol, cynigir ad-daliad i chi ar ôl derbyn bwrsari.

— Bydd AMA a Chyngor Celfyddydau Cymru yn gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu adborth, y gellir ei ddefnyddio at ddibenion marchnata, ar eu profiad yn Niwrnod Marchnata Digidol 2026.

Cyfeiriad(Required)
Ydych chi'n aelod o AMA?(Required)
Ers faint ydych chi’n gweithio yn y sector diwylliannol?(Required)
Ydych chi'n gwneud cais fel Gweithiwr Llawrydd neu o sefydliad?(Required)
Ydych chi'n gweithio i sefydliad bach?(Required)
Ystyriwn sefydliadau bach yn rhai sydd gyda llai na 10 o weithwyr a/neu drosiant o lai na £632,000 yn 2025/26
Nifer o staff pwrpasol ym maes marchnata / datblygu cynulleidfa sydd yn eich sefydliad:(Required)
Ydych chi’n unrhyw un o'r canlynol:(Required)
Pa sgiliau ydych chi’n edrych i’w datblygu? Sut fydd hyn o fudd i’ch datblygiad personol/gyrfaol? Sut fydd hyn o fudd i’ch sefydliad?
Os yn bosibl, rhowch fwy o fanylion am ba gludiant a llety y byddai angen i chi eu cynnwys.