Hanfodion EDI ar gyfer Marchnata Lefel 3
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig hyd at 4 bwrsari sy’n talu cost lawn mynd i’r Hanfodion EDI ar gyfer Marchnata Lefel 3.
Derbyniwn geisiadau gan aelodau o AMA a rhai nad ydynt yn aelodau sy’n gweithio i sefydliadau diwylliannol.
I ymgeisio rhaid eich bod yn gweithio yng Nghymru a diwallu un neu fwy o’n meini prawf.
Rhaid i bob ymgeisydd fodloni’r meini prawf canlynol.
Meini prawf:
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr unigol fod yn gweithio fel gweithiwr celfyddydol llawrydd yng Nghymru neu mewn sefydliad celfyddydol sydd yng Nghymru

Yn enwedig hoffwn gael ceisiadau gan y canlynol:
- Unigolion neu sefydliadau sy’n gweithio’n bennaf yn y Gymraeg
- Unigolion Byddar, anabl neu niwroamrywiol
- Unigolion o gefndir ethnig neu ddiwylliannol amrywiol
- Sefydliadau sy’n cael eu harwain gan — ac yn canolbwyntio ar gefnogi — grwpiau â nodweddion gwarchodedig. O’r rhain, bydd blaenoriaeth arbennig i’r sefydliadau celfyddydol dan arweiniad pobl ethnig ac yn ddiwylliannol amrywiol neu rai dan arweiniad pobl anabl
- Unigolion sy’n gweithio’n llawrydd yn y sector diwylliannol gyda’r gwaith yna’n brif ffynhonnell incwm iddyn nhw
Sut i ymgeisio :
Cwblhewch y ffurflen gais ar-lein erbyn Dydd Iau 12 Mawrth 2026 am 5.00pm.
Os oes gennych gwestiynau, anfonwch e-bost at Molly Pilkington, Uwch Swyddog Twf a Chyfranogiad AMA: molly@a-m-a.co.uk
Cofiwch:
— Dim ond un fwrsariaeth a gaiff pob sefydliad
— Mae bwrsariaethau yn talu costau cynrychiolwyr yn unig. Bydd yn rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus dalu eu costau teithio a llety eu hunain
— Os cawn ragor o geisiadau na lleoedd, aseswn bob cais yn erbyn ei gilydd yn ôl ein blaenoriaethau: Strategaeth | Arts Council of Wales
— Bydd y Cyngor yn gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus roi adborth ar eu profiad ar y cwrs Hanfodion EDI ar gyfer Marchnata Lefel 3
— Bydd AMA yn gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus roi adborth (at ddibenion marchnata) am eu profiad ar y cwrs Lefel 3 Hanfodion EDI ar gyfer Marchnata
