Member login  
Forgot Password? | Not a member?
Member login

Lab Treftadaeth Ddigidol
Gweithdai ar-lein

National Lottery Heritage Fund logo

Mae’r gweithdai ar-lein canlynol ar gael am ddim yn rhan o’r Lab Treftadaeth Ddigidol ac maen nhw ar gyfer pobl sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli mewn sefydliad treftadaeth bach i ganolig ei faint. Byddant yn rhedeg yn fyw, gan gynnig cyfle i chi ryngweithio’n uniongyrchol gyda’r hyfforddwr a chyfranogwyr eraill. Byddwn yn defnyddio Webex ar gyfer yr holl weithdai ar-lein hyn; mae’n gydnaws â’r rhan fwyaf o lwyfannau.

Prosiect yw’r Lab Treftadaeth Ddigidol sy’n cael ei reoli gan Gymdeithas yr AMA (yr Arts Marketing Association) gydag Arts Fundraising & Philanthropy, One Further a’r Ymddiriedolaeth Gasgliadau. Caiff ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn rhan o fenter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth