Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn darparu hyd at 5 bwrsariaeth a fydd yn talu cost lawn lle ar ein cwrs Hanfodion Marchnata.

Derbyniwn geisiadau gan aelodau o AMA a rhai nad ydynt yn aelodau sy’n gweithio i sefydliadau diwylliannol. 

I ymgeisio rhaid eich bod yn gweithio yng Nghymru a diwallu un neu fwy o’n meini prawf.  

Rhaid i bob ymgeisydd fodloni’r meini prawf canlynol.

Meini prawf:   

  • Mae’n rhaid i ymgeiswyr unigol fod yn gweithio fel gweithiwr celfyddydol llawrydd yng Nghymru neu mewn sefydliad celfyddydol sydd yng Nghymru.

Yn enwedig hoffwn gael ceisiadau gan y canlynol:   

  • Unigolion neu sefydliadau sy’n gweithio’n bennaf yn y Gymraeg 
  • Unigolion Byddar, anabl neu niwroamrywiol 
  • Unigolion o gefndir ethnig neu ddiwylliannol amrywiol 
  • Sefydliadau sy’n cael eu harwain gan — ac yn canolbwyntio ar gefnogi — grwpiau â nodweddion gwarchodedig. O’r rhain, bydd blaenoriaeth arbennig i’r sefydliadau celfyddydol dan arweiniad pobl ethnig ac yn ddiwylliannol amrywiol neu rai dan arweiniad pobl anabl 
  • Unigolion sy’n gweithio’n llawrydd yn y sector diwylliannol gyda’r gwaith yna’n brif ffynhonnell incwm iddyn nhw 

Sut i ymgeisio :    

Cwblhewch y ffurflen gais ar-lein erbyn Dydd Llun 12 Hydref 2026 am 12pm.

Os oes gennych gwestiynau, anfonwch e-bost at Molly Pilkington, Uwch Swyddog Twf a Chyfranogiad yn AMA: molly@a-m-a.co.uk

Arts Council of Wales Logo

Pwysig:

— Rydym yn ystyried sefydliad bach yn un sydd â llai na 10 o weithwyr a/neu drosiant o lai na £632,000.

— Dim ond un bwrsari y bydd pob sefydliad yn ei dderbyn.

— Os oes mwy o geisiadau na’r lleoedd sydd ar gael, bydd y Cyngor yn eu hasesu’n gymharol yn ôl bodloni ein blaenoriaethau: Strategaeth | Cyngor Celfyddydau Cymru.

— Rydym yn dymuno i rai sy’n derbyn y bwrsariaethau roi adborth am eu profiad ar y cwrs Hanfodion Marchnata.

— Bydd AMA a Chyngor Celfyddydau Cymru yn gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus roi adborth ar eu profiad ar y cwrs Hanfodion Marchnata. At ddibenion marchnata y mae’r adborth hwn.

Cyfeiriad(Required)
Ydych chi'n aelod o AMA?(Required)
Ers faint ydych chi’n gweithio yn y sector diwylliannol?(Required)
Ydych chi'n gweithio i sefydliad bach?(Required)
Ystyriwn sefydliadau bach yn rhai sydd gyda llai na 10 o weithwyr a/neu drosiant o lai na £632,000 yn 2025/26
Nifer o staff pwrpasol ym maes marchnata / datblygu cynulleidfa sydd yn eich sefydliad:(Required)
Ydych chi’n unrhyw un o'r canlynol:
Pa sgiliau ydych chi’n gobeithio eu datblygu?
Pam y byddech chi a/neu eich sefydliad yn elwa o fynychu’r cwrs Hanfodion Marchnata? Sut fyddech chi’n rhannu’r hyn rydych chi’n ei ddysgu ar draws eich sefydliad?