Ffurflen Gais
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig bwrsariaethau sy’n talu am gost lawn aelodaeth flwyddyn o AMA i gefnogi sefydliadau bach a marchnatwyr newydd.
Os gweithiwch i sefydliadau diwylliannol ac nad ydych yn aelod yn barod, gallwch ymgeisio. Rhaid ichi fod yn gweithio yng Nghymru a bodloni un neu ragoro’r meini prawf.
Meini prawf
- Gweithio i sefydliad bach (sef un â llai na 10 gweithir a/neu drosiant o lai na £350,000 yn 2019/20, cyn y pandemig)
- Bod ym 5 mlynedd cyntaf eich gyrfa farchnata
- Gweithio fel Cynorthwy-ydd neu Swyddog

Anogwn ichi ymgeisio os ydych yn:
- Unigolyn neu sefydliad sy’n gweithio’n bennaf yn y Gymraeg
- Unigolyn Byddar, anabl neu niwroamrywiol
- Unigolyn o gefndir ethnig neu ddiwylliannol amrywiol
- Sefydliad dan arweiniad pobl â nodweddion gwarchodedig ac sy’n eu cefnogi, yn enwedig pobl anabl ac ethnig a diwylliannol amrywiol
Sut i ymgeisio
Erbyn hanner dydd, ddydd Llun 13 Mehefin 2022, cyflwynwch ffurflen gais ar-lein.
Gydag unrhyw gwestiynau, e-bostiwch Matt Ecclestone yn AMA: matt@a-m-a.co.uk
Y camau nesaf
Asesa AMA a’r Cyngor bob cais. E-bostia AMA bawb gyda phenderfyniad terfynol erbyn 24 Mehefin 2022.
Sylwer:
— Dim ond un fwrsariaeth y caiff pob sefydliad.
— Rhaid ichi beidio â bod yn aelod yn barod.
— Os cawn ragor o geisiadau na’r bwrsariaethau, aseswn bob un yn gymharol yn ôl ein blaenoriaethau: Strategaeth | Arts Council of Wales.
— Ar ôl llwyddo, rhaid ichi roi adborth anffurfiol inni am eich profiad.
— Bydd AMA am gael adborth hefyd at ddibenion marchnata.
— Mae aelodaeth AMA yn cynnwys gweminarau hyfforddi am ddim, cyfarfodydd rhanbarthol, adnoddau a llawer rhagor: rhestr o fuddion AMA.