Ffurflen gais
Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn darparu bwrsariaethau sy’n talu cost lawn aelodaeth AMA am flwyddyn i gefnogi sefydliadau bach a mawr.
Mae ceisiadau ar agor i bobl nad ydynt yn aelodau’n barod sy’n gweithio i sefydliadau ar draws y sector diwylliannol.
Rhaid i bob ymgeisydd fod yn gweithio yng Nghymru ac yn bodloni’r meini prawf canlynol.

Meini prawf
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr unigol fod yn gweithio fel gweithiwr celfyddydol llawrydd yng Nghymru neu mewn sefydliad celfyddydol sydd yng Nghymru.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn annog yn gryf geisiadau gan y canlynol
- Unigolion neu sefydliadau sy’n gweithio’n bennaf yn y Gymraeg
- Unigolion Byddar, anabl neu niwroamrywiol
- Unigolion o gefndir ethnig neu ddiwylliannol amrywiol
- Sefydliadau sy’n cael eu harwain gan — ac yn canolbwyntio ar gefnogi — grwpiau â nodweddion gwarchodedig. O’r rhain, bydd blaenoriaeth arbennig i’r sefydliadau celfyddydol dan arweiniad pobl ethnig ac yn ddiwylliannol amrywiol neu rai dan arweiniad pobl anabl
- Unigolion sy’n gweithio’n llawrydd yn y sector diwylliannol gyda’r gwaith yna’n brif ffynhonnell incwm iddyn nhw
Sut i wneud cais:
Cwblhewch y ffurflen gais ar-lein isod.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y bwrsariaethau hyn, anfonwch e-bost at Lewis, Rheolwr Cymuned Aelodau, Lewis@a-m-a.co.uk
Y camau nesaf:
Bydd yr AMA a Chyngor Celfyddydau Cymru yn asesu pob cais a bydd yr AMA yn e-bostio pob ymgeisydd ynglŷn â’r canlyniad cyn gynted â phosibl.
Pwysig:
— Ni roddwn fwrsariaeth i ragor nag un person o’r un sefydliad.
— Mae bwrsariaethau yn agored i sefydliadau ac unigolion nad oes ganddynt aelodaeth gyfredol o AMA yn barod.
– Os cawn ragor o geisiadau na’r lleoedd sydd ar gael, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn gwneud asesiad cymharol o’r holl geisiadau a gawn i asesu pa mor agos y maent yn cyd-fynd â’n blaenoriaethau. Gallwch weld y blaenoriaethau hyn drwy’r ddolen hon: Strategaeth | Arts Council of Wales.
— Gofynnwn i bawb sy’n cael bwrsariaeth am adborth anffurfiol am eu profiad o fod yn aelod.
— Bydd AMA yn gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus roi adborth am eu profiad o aelodaeth at ddibenion marchnata AMA.
— Mae aelodaeth o AMA yn cynnwys gweminarau hyfforddi sy’n rhad ac am ddim drwy gydol y flwyddyn, mynediad i gyfarfodydd rhanbarthol, adnoddau a llawer rhagor. Gallwch weld rhestr lawn o’n buddion i aelodau yma.
