Ffurflen gais

Saesneg/English

Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn darparu bwrsariaethau sy’n talu cost lawn aelodaeth o AMA am flwyddyn i gefnogi sefydliadau bach a marchnatwyr sy’n dod i’r amlwg.

Mae ceisiadau ar agor i bobl nad ydynt yn aelodau’n barod sy’n gweithio i sefydliadau ar draws y sector diwylliannol.

Rhaid i bob ymgeisydd fod yn gweithio yng Nghymru ac yn bodloni’r meini prawf canlynol.

ACW Logo

Meini prawf

  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn gweithio mewn sefydliad celfyddydol yng Nghymru neu fel gweithiwr llawrydd celfyddydol yng Nghymru

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn annog yn gryf geisiadau gan y canlynol

  • Unigolyn neu sefydliad sy’n gweithio’n bennaf yn y Gymraeg
  • Unigolyn Byddar, anabl neu niwroamrywiol
  • Unigolyn o gefndir ethnig neu ddiwylliannol amrywiol
  • Sefydliadau sy’n cael eu harwain gan — ac yn canolbwyntio ar gefnogi — grwpiau o bobl sydd â nodweddion gwarchodedig. O’r rhain, blaenoriaeth benodol fydd y rhai sy’n sefydliadau celfyddydol amrywiol yn ethnig ac yn ddiwylliannol neu sefydliadau dan arweiniad pobl anabl

Sut i wneud cais:

Llenwch y ffurflen gais ar-lein erbyn 10:00 y bore ar ddydd Mawrth 25 Tachwedd 2025.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y bwrsariaethau hyn, anfonwch e-bost at Lewis, Uwch Swyddog Ymgysylltu ag Aelodau, Lewis@a-m-a.co.uk



Y camau nesaf

Bydd AMA a Chyngor Celfyddydau Cymru yn asesu pob cais a bydd AMA yn anfon e-bost at bob ymgeisydd gyda phenderfyniad terfynol erbyn diwedd mis
Rhagfyr 2025. 

Pwysig:

— Ni roddwn fwrsariaeth i ragor nag un person o’r un sefydliad.

— Mae bwrsariaethau yn agored i sefydliadau ac unigolion nad oes ganddynt aelodaeth gyfredol o AMA yn barod.

– Os cawn ragor o geisiadau na’r lleoedd sydd ar gael, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn gwneud asesiad cymharol o’r holl geisiadau a gawn i asesu pa mor agos y maent yn cyd-fynd â’n blaenoriaethau. Gallwch weld y blaenoriaethau hyn drwy’r ddolen hon: Strategaeth | Arts Council of Wales   

— Gofynnwn i bawb sy’n cael bwrsariaeth am adborth anffurfiol am eu profiad o fod yn aelod.

— Bydd AMA yn gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus roi adborth am eu profiad o aelodaeth at ddibenion marchnata AMA.

— Mae aelodaeth o AMA yn cynnwys gweminarau hyfforddi sy’n rhad ac am ddim drwy gydol y flwyddyn, mynediad i gyfarfodydd rhanbarthol, adnoddau a llawer rhagor. Gallwch weld rhestr lawn o’n buddion i aelodau yma.